Chwalfa (Nofel T Rowland Hughes)
Addasu i’r llwyfan gan Gareth Miles
Cyfarwyddwr: Arwel Gruffydd
Cyfarwyddwr cyswllt yn 2014: Ffion Haf

Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad a Pontio a Fran Wen

‘Streic fawr Chwarel y Penrhyn 1900-03 – Pan wrthododd rheolwr chwarel y Penrhyn yr hawl i’r gweithwyr gasglu taliadau undeb ar diriogaeth y chwarel fel ymgais i roi terfyn ar weithgaredd undebol, dechreuodd y weithred hon yr hyn a ddatblygodd i fod yn un o anghydfodau diwydiannol hiraf a chwerwaf yn hanes Prydain’

Cynhyrchiad Epig a oedd yn cynnwys 12 o actorion proffesiynol a dros 60 o gast cymunedol yn cymryd rhan.