Brain – Franwen
Sgript i Lwyfan

YMCHWIL DRWY YMARFER – ‘DATBLYGU ‘SGWENNWYR IFANC YNG NGHYMRU’ FFION HAF

Mewn ymateb i’r angen yng Ngogledd Orllewin Cymru am blatfform i ‘sgwennwyr ifanc rannu gwaith, fe aeth Ffion ati i greu cynllun ‘sgwennu newydd, ‘Sgript i Lwyfan’, o dan fentoriaeth y dramodydd Aled Jones Williams. Nid yn unig yr oedd hi eisiau i bobl ifanc ddatblygu gwaith sgriptio a’i gyflwyno i gwmni proffesiynol ond mynd ati i’w ddatblygu gyda chyfarwyddwyr a phrofi amgylchedd datblygu sgript gydag actorion proffesiynol i ymgymryd â phroses rhyngweithiol yn y theatr a derbyn ymateb a datblygiad pellach gan gynulleidfa byw. Ers ei sefydlu nol yn 2013, mae un o’r dramodwyr ifanc, ‘Llŷr Titus’ wedi ennill gwobr am ‘Dramodydd gorau yn yr iaith Gymraeg’ yng Ngwobrau Theatr Cymru 2016 a sgwennwyr profiadol eraill, megis Branwen Davies a Tim Price wedi cymryd rhan i fentora yn genedlaethol ar y cynllun gwerthfawr hwn.