Brain – Franwen
Pontio’r Bwlch
Cyllidwyd gan arian Ewropeaidd (ESF) 2011-15

Rheolwr Prosiect – Ffion Haf

Dros gyfnod o 4 mlynedd, rheolodd Ffion brosiect i ddatblygu sgiliau creadigol pobl ifanc a oedd yn byw mewn ardaloedd difreintiedig yng Ngogledd Cymru. Gweithiodd a chriwiau amrywiol a oedd allan o addysg, hyfforddiant neu waith, er mwyn datblygu ei hyder, parch at y gymuned leol, yn ogystal a datblygu ei proffil addysgol ar gyfer byd gwaith y dyfodol. Wrth lunio rhaglen artistig gyda artistiaid profiadol ac unedau addysgol, elusennau, unedau troseddu, cymunedau ieuenctid a’r cyngor, llwyddod y prosiect i gyraedd llawer iawn o unigolion o oedran 13 i 23. Derbyniodd y prosiect gydnabyddiaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru am ei effaith ar ardaloedd lleol, a gwahoddwyd cynrychiolwyr o’r bobl ifanc i rannu ei profiadau mewn cynhadledd flynyddol yng Nghaerdydd. Ers hynny mae unigolion wedi mynd ati i hyfforddi neu dderbyn swyddi llawn amser mewn sefydliadau cyhoeddu. Penderfynodd eraill barhau mewn addysg bellach.

Mae Fran Wen wedi parhau i ddatblygu’r rhaglen i mewn i STIWDIO barhaol yn ei adeilad ym Mhorthaethwy, lle mae casgliad o unigolion bob blwyddyn yn cael ei hyfforddi o dan arweiniad yr artist digidol a gwneuthurwr ffilm, Rob Spaull, i ddatblygu gwaith digidol i fusnesau lleol. Yn derbyn credydau addysgol a rhai ohonynt wedi parhau i sefydlu busnesau ei hunain o ganlyniad.