‘Lucid Walk’ efo Marc Rees (Lucid Theatre)
Lleoliad: Talacharn, (Laurghne).
Siedau, Pobl, Dylan Thomas, Bara Brith, Glaw.

Cerdded: Ffion Haf
Dyfeisio: Marc Rees
Cyfarwyddwr y cwmni: Simon Harris

‘Pa ddiwrnod ydi hi heddiw ‘ma?’ gofynnodd Marc Rees, 8fed o Dachwedd 2013, pan oeddan ni yn edrych ar fedd Dylan Thomas oedd wedi ei nodi, ‘9fed o Dachwedd, 1953’, wel am gyd-ddigwyddiad fysa hynny wedi bod! Wrth gerdded o gwmpas Talacharn, yn chwilio am ysbrydoliaeth greadigol mi roedd yn ddiddorol gweld sut y roedd artist rhyngddisgyblaethol fel Marc Rees yn creu a datblygu ei ymarfer ar waith.

Mi roedd Jon Treganna a Marc Rees yng nghanol datblygu darn o’r enw ‘Raw Material’ efo’r National Theatre Wales ac mi roeddwn i wedi cael fy ngwahodd i archwilio’r ardal gyda Marc i gwestiynu beth oedd yn rhoi gwir hunaniaeth i’r lle? Wrth ymollwng ein hunain i fyd dyddiol y pentref, mi roedd Marc yn awyddus i ddod i adnabod cymeriadau’r pentref ac astudio rhythmau naturiol y tirlun a’r amgylchfyd yn ogystal â chynnwys hanesyddol y lle. Mi roedd y profiad o ymollwng yn caniatáu i amser aros yn llonydd am gyfnod gyda’r dychymyg yn cymryd drosodd i greu. Yn mwynhau cawl cynnes yng nghartref Dylan Thomas ac ambell i ddarn o fara brith, mi roedd y posibiliadau artistig y roedd Marc yn datblygu yn galonogol. Sylweddolais fod bod yn rhan o fyd dyddiol lleoliad a chaniatáu i ddigwyddiadau annisgwyl godi, yr un mor bwysig a chynllunio a strwythuro’r cynnyrch.

Cyngor Celfyddydau Cymru 2013

NODIADAU
Director Ffion Haf Jones talks about her walk with Marc Rees

https://lucidevent.wordpress.com/2013/11/19/guided-tour-no-4-with-artist-and-curator-marc-rees/